Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

05 Tachwedd 2018

SL(5)260 – Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn ffurfio rhan o gyfres o offerynnau statudol sy'n ymwneud â systemau draenio cynaliadwy ac yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r gofyniad i gymeradwyo, a cheisiadau am fabwysiadu, systemau o'r fath o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29 ).

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ionawr 2019.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Fe’u gwnaed ar: 10 Hydref 2018

Fe’u gosodwyd ar: 15 Hydref 2018

Yn dod i rym ar: 07 Ionawr 2019

SL(5)261 – Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â draenio cynaliadwy. Maent yn ffurfio rhan o amcan Llywodraeth Cymru o greu strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli'r perygl o lifogydd yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i gorff cymeradwyo godi ffioedd mewn perthynas â cheisiadau i gymeradwyo systemau draenio cynaliadwy yn unol ag Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Fe’u gwnaed ar: 10 Hydref 2018

Fe’u gosodwyd ar: 15 Hydref 2018

Yn dod i rym ar: 07 Ionawr 2018

 

SL(5)263 – Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Gorchymyn hwn yn ffurfio rhan o gyfres o is-ddeddfwriaeth sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â draenio cynaliadwy.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gorfodi torri'r gofyniad am gymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 mewn perthynas â systemau draenio ar gyfer gwaith adeiladu.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 15 Hydref 2018

Yn dod i rym ar: 07 Ionawr 2019

 

SL(5)264 – Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â draenio cynaliadwy. Maent yn ffurfio rhan o amcan Llywodraeth Cymru o greu strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli'r perygl o lifogydd yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad corff cymeradwyo o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a

Dŵr 2010 mewn perthynas â cheisiadau am gymeradwyaeth neu mewn perthynas â’r ddyletswydd i fabwysiadu mewn cysylltiad â systemau draenio cynaliadwy.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 15 Hydref 2018

Yn dod i rym ar: 07 Ionawr 2019

 


SL(5)265 – Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994 ar gyfer Cymru.

Mae adran 60(1) a (2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”) yn darparu nad yw adeiladau eglwysig sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig yn ddarostyngedig i adrannau 3A, 4, 7 i 9, 47, 54 a 59 o Ddeddf 1990. Mae hyn wedi ei ddiffinio yn erthygl 2 fel esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig. Mae’r adrannau hynny yn ymwneud â rheoli adeiladau rhestredig, gan gynnwys: hysbysiadau diogelu adeilad; cyfyngiadau ar waith dymchwel, addasu neu estyn; caffael yn orfodol adeiladau y mae angen eu hatgyweirio; gwaith cadwraeth brys gan awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru; a throseddau mewn perthynas â difrod bwriadol. 

Mae adran 75 o Ddeddf 1990 yn darparu nad yw adeiladau eglwysig sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig yn ddarostyngedig i adran 74 o Ddeddf 1990. Mae adran 74 yn ymwneud â rheoli dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth. Hwn yw’r esemptiad eglwysig cydsyniad ardal gadwraeth. 

Mae’r Gorchymyn hwn yn dileu’r esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig yn achos pob adeilad eglwysig ac eithrio ar gyfer yr achosion hynny sy’n dod o fewn erthygl 4. O dan erthygl 4 cedwir yr esemptiad mewn cysylltiad ag adeiladau eglwys yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru ar yr amod mai’r prif ddefnydd a wneir o’r adeilad o dan sylw yw fel man addoli, ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a nodir yn yr erthygl honno.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990

Fe’u gwnaed ar: 15 Hydref 2018

Fe’u gosodwyd ar: 16 Hydref 2018

Yn dod i rym ar: 01 Ionawr 2019